±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Troseddau Hynod
gan Roy Davies.
50 o lofruddiaethau a marwolaethau amheus yng Nghymru . Golygydd: Lyn Ebenezer. Gwasg Carreg Gwalch, £6.50


Adolygiad: Dafydd Meirion
Llyfr erchyll hawdd i'w ddarllen

Dydw i ddim yn un sydd â rhyw ddiddordeb mawr mewn llofruddiaethau ond allwn i ddim rhoi'r llyfr yma i lawr. Clawr y gyfrolAc ni ellid cael dau well i ymwneud â llyfr o'r fath. Roy Davies, cyn ddirprwy bennaeth carfan droseddol yr heddlu yn ne Cymru a fu'n ymwneud â sawl llofruddiaeth, a Lyn Ebenezer, un a fu â diddordeb mewn erchyllterau o'r fath ac sy'n storïwr heb ei ail.

Mae yma dros hanner cant o lofruddiaethau a marwolaethau amheus, ac os oes gen i un feirniadaeth, y ffaith eu bod wedi rhoi enw'r llofrudd ar ben pob pennod gan roi gwybod i'r darllenydd pwy wnaeth yw honno.
Oni fyddai'n well rhoi Y dyn a saethoddd ei gariad' yn hytrach na Harry Huxley', er enghraifft?

Sgwennu difyr
Mae yma sgwennu difyr iawn. Cymerwch chi hyn. "Llofruddiwyd Mary Ann Rees drwy ei thaflu ddeugain troedfedd i lawr hen ffwrnais. Dim ond ychydig dros chwe throedfedd fu cwymp ei llofrudd, ond bu'n ddigon i'w ladd gan fod rhaff am ei wddf ar y pryd."

Neu: "Er mai rhaff Albert Pierrpoint ddaeth â bywyd Albert Edward Jenkins i ben, gellid dweud mai pâr o gareiau esgidiau a'i crogodd mewn gwirionedd."

Mae'r llyfr yn llawn ffeithiau, dydyn nhw byth yn fwrn ac mae'n lyfr hawdd iawn i'w ddarllen.

Dynion yw'r rhan fwyaf o'r llofruddion a phrin yw'r merched, er mai merched yw'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael eu lladd.

Pregethwr cynorthwyol
Roedd nifer eisoes wedi bod mewn trafferthion efo'r heddlu, fel Daniel Driscoll ac Eward a John Rowlands oedd yn gangsters yng Nghaerdydd, ond yn eu mysg mae pregethwr cynorthwyol, Rees Thomas Rees, a chlerc banc, Mark Trayton Smith.

Roedd un, Vivian Frederick Teed, o deulu o efengylwyr a chafodd yntau droedigaeth tra'n disgwyl cael ei grogi, a hynny wedi iddo glywed emyn yn cael ei chanu ar ddechrau gêm Cwpan FA Lloegr ar y radio. Mae rhai o'r llofruddiaethau'n mynd yn ôl i dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, eraill ond i ddegawdau olaf y ganrif ddiwethaf.

Beth sy'n amlwg o'r llyfr yw mai crogi oedd tynged bron pob un i fyny at y 1940au - yn 1931 crogwyd 11, ond wedi hynny daw carchar am oes yn fwy cyffredin.

Ond roedd yna gryn wrthwynebiad i grogi ymhell cyn ei wahardd a hynny, weithiau, am lofruddiaethau erchyll gyda deisebau ac arnyn nhw filoedd o enwau'n cael eu gyrru i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn 1927, gyrrwyd 64,000 o enwau o Birmingham yn unig yn erbyn crogi tri o Gaerdydd, ond yn ofer.

Gwn, rasel a chyllell
Caiff sawl dull o ladd eu defnyddio - arsenic, gynnau, rasel, sawl cyllell, ond mae mwy nag un wedi marw o gael eu waldio'n ddidrugaredd.

Mae yma sawl rheswm dros lofruddio hefyd. Serch neu ryw, ac mae dwyn arian yn amlwg.

Ceir sawl camgymeriad a chafodd Julian Biros ei ladd wedi ffrae dros baned o de. Mae sawl un wedi lladd ar ôl cael gormod o ddiod.

Rhai oedd yn agos at y llofrudd oedd y rhan fwyaf o'r rhai a laddwyd, yn wragedd, yn gariadon ac hyd yn oed yn rieni - ac mae sawl achos o ladd cyfaill.

Cyfaddef yn syth
Mae'n syndod sut y bu i nifer gyfaddef yn syth. "Does dim camgymeriad, anelais ati a saethais ei gyts hi allan," meddai William Hughes.

Ceisiodd rhai ladd eu hunain. "Yna gwelsai Price yn dod allan a thanio ergyd i'w wddf ei hun...," ond ceisio dianc wnaeth nifer ohonyn nhw.

Ceisiodd rhai berswadio'r llysoedd nad oedden nhw yn eu iawn bwyll.

"Tystiodd dau feddyg carchar ... nad oedd Lange yn dioddef o unrhyw salwch meddwl a'i fod yn gyfrifol am ei weithredoedd. Ond dadleuodd Morgan Morgan fod methiant Lange i gael gwaith, ynghyd â thlodi, wedi ei yrru i gyflwr o iselder a'i wneud yn anghyfrifol."

Ond cael ei grogi wnaeth o!

Dianc neu grogi
Cyngor reit anghyffredin gafodd Rees Thomas Rees gan ei gyfreithiwr. "... dychwelodd i Gymru ac ymweld â chyfreithiwr yng Nghaerfyrddin. Cyngor hwnnw oedd iddo ddianc neu wynebu cael ei grogi."

Mae'n syndod cyn lleied wnaeth rhai i gael gwared â'r arfau ddefnyddiwyd i ladd a dillad â gwaed arnyn nhw.

"Roedd y tad wedi sylwi bod olion gwaed ar got law a adawodd ei fab ar ô" a "Wrth ei archwilio fe ganfuwyd y gyllell, ag olion gwaed arni, yn ei boced" yn ddim ond dwy o nifer o enghreifftiau.

Ffeithiau diddorol
Daw nifer o ffeithiau difyr na sy'n ymwneud â'r llofruddiaethau i'r amlwg. Syndod oedd gweld cymaint o aelod seneddol oedd yn gweithio fel bargyfreithwyr yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.

"Yn ymddangos ar ran y Goron roedd J Ellis Griffiths AS gyda Clement Edwards AS yn ei gynorthwyo..." a "... gyda Walter Samuel AS ac Ellis Lloyd AS yn erlyn..."

Sonnir bod un llofrudd wedi'i ddal a hynny am fod swyddfeydd heddlu'r de newydd gael eu cysylltu â theliffon.

Ar un dudalen, ceir cyfeiriad at y ffaith fod gwyddonwyr yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng gwaed dynol a gwaed anifail, a hynny yn 1928.

Yn nes ymlaen, caiff sawl llofrudd ei ddal drwy allu dweud yn union bod ei waed ar yr arf. Ac ar dudalen 210, ceir Pan lofruddiwyd Hezekiah Thomas yn 1971, bu farw'r Cymro Cymraeg naturiol olaf ym Mro Morgannwg.' Trychineb mewn mwy nag un ystyr.

Wynebu eu tynged
Nid pob llofruddiaeth sy'n cael ei datrys ac nid pob llofrudd sy'n cael ei grogi. Caiff ambell un prin bardwn.

Ond cael eu crogi yw tynged y rhan fwyaf yn y llyfr hwn ac mae'r ffordd y maen nhw'n wynebu eu tynged yn amrywio'n fawr.

"Llewygodd Rowlands mewn arswyd a bu'n rhaid ei gario'n anymwybodol a'i osod... ar y drws trap." a "...gwrthododd fynd yn dawel a defnyddiodd bob mymryn o'i nerth i frwydro yn erbyn y crogwr a'i gynorthwywyr. Yn wir, bu'n rhaid ei osod mewn caethwasgiad (straighjacket) a'i gario tuag at y crocbren."

Ond nid felly pob un. "... ni ddangosodd Stewart unrhyw arwydd o ofn wrth iddo gael ei arwain tuag at y drws trap. Yn wir, fe wenodd."

Ac roedd sawl un arall yn dawel ei feddwl, "Roedd stwmpyn sigaret yng ngheg Foy wrth i'r crogwr osod y cwcwll gwyn am ei ben a'r rhaff am ei wddf... Roedd y cyfan drosodd mewn eiliadau... Pan dynnwyd y cwcwll oddi ar ei ben roedd y stwmpyn sigaret yn dal rhwng ei wefusau."

Gwaed oer
Gyda galwadau am ddod a chrogi'n ôl yn cynyddu'r dyddiau hyn, tybed oedd crogi - pan oedd mewn bodolaeth - yn rhyw fath o rwystr i ladd?

Yn ôl tystiolaeth y llyfr yma, nag oedd. Ychydig iawn o ladd gwaed oer sydd yma. Lladd mewn gwylltineb neu pan yn feddw yw llawer o'r llofruddiaethau ac roedd sawl un yn fodlon wynebu'r gosb eithaf.

Penodau byrion sydd i'r llyfr, ac mae'n darllen yn rhwydd. Boed gennych ddiddordeb mewn gweithredoedd ysgeler ai peidio, mae'n llyfr na ellir ei roi i lawr yn hawdd.

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý