±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

±«Óãtv ±«Óãtvpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill gan Daniel Morden
Mae chwedlau storïwr sydd wedi bod yn adrodd ei straeon ar hyd a lled y byd yn awr ar gael yn y Gymraeg.


Disgrifir "gweithle" y storïwr proffesiynol, Daniel Morden, fel "y Caribi, yr Arctig, y byd cyfan a dweud y gwir!" gan gyhoeddwyr Y Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill, Gwasg Gomer.

Daniel"Prin yw'r bobl sy'n medru dweud eu bod yn ennill eu bywoliaeth drwy ddweud storïau ond dyna a wna Daniel Morden o'r Fenni," meddai llefarydd ar ran y wasg..

"Ers 1989 mae wedi teithio'r byd yn ymweld â chanolfannau celf, theatrau, amgueddfeydd a gwyliau o bob math."

Fel yr hen gyfarwydd neu storïwr traddodiadol mae Daniel yn nyddu ei stori gan ddibynnu ar y gynulleidfa neu'r lleoliad.

gynulleidfa newid ei stori i weddu i'w gynulleidfa a'i leoliad. Ond daw cynulleidfa eang iawn i wybod am ei storïau bellach wrth i Wasg Gomer gyhoeddi ei lyfr cyntaf a'i addasu i'r Gymraeg hefyd felY Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill.Un o luniau'r gyfrol"Dwi wastad wedi dweud storïau. Pan oeddwn i'n ifanc, roedd plant yn gallu cerdded i'r ysgol ar eu pennau eu hunain a bob dydd wrth gerdded fe fyddwn i'n creu stori, un amdana i fy hunan, neu Spiderman neu rhyw gymeriad rhyfedd ro'n i wedi ei greu.

"Pan fyddwn i'n cyrraedd yr ysgol, os nad o'n i wedi gorffen y stori, fe fyddwn i'n cerdded o gwmpas y buarth, yn ei hadrodd hi o dan fy ngwynt ," meddai.

Saith stori yn hud ac arswyd sydd yn y llyfr newydd gyda'r Bwca a'r ffynnon hud yn eu plith.

Daniel Mae'r gyfrol yn cynnwys hefyd luniau gan un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Jac Jones o Langefni.

Mae gan Ddaniel Morden ddiolch arbennig i Robin Gwyndaf o Amgueddfa Werin Cymru am ei waith yn casglu llu o straeon gan Lewis T. Evans o Glwyd.

Y Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill Daniel Morden addas. Elin Meek 1 84323 293 6 £4.50 84323 293 6 £4.50

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Elin Meek

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar ±«Óãtv Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý