|
|
Ffuglen
sy'n
teimlo fel y gwir
Adolygiad
o'r nofel a ddaeth yn ail yng Ngystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel
Owen eleni
Dydd Iau, Ionawr 4, 2001
|
Adolygiad
Aneirin Karadog o Yr Ias yng Ngruddiau’r Rhosyn gan Gwyn Llewelyn,
Gwasg Carreg Gwalch.
Wrth ddechrau darllen y nofel afaelgar hon o eiddo Gwyn Llewelyn,
nid oedd yn syndod imi fod y digwyddiadau ynddi’n cael eu lleoli led-led
y byd.
O Fôn i Seland Newydd ac o Awstralia i ddeheudir cyfandir Affrica.
Dylanwad cyfres deledu
Mae dyn yn cofio, wrth gwrs, i’r awdur fod yn gyflwynydd nifer o raglenni
teledu fel Y Dydd, Heddiw, Newyddion Saith, Hel Straeon ac
yn fwyaf arbennig yn y cyswllt hwn, Gwyn ei Fyd.
Mae’n amlwg o’r nofel hon i'r cyfleoedd a’r profiadau a gafodd yn
y gyfres honno ddylanwadu arno’n aruthrol.
Mae dawn yr ymchwilydd yn amlwg iawn. Serch hynny, heb fynd i swnio’n
rhyfygus nac yn haerllug, efallai fod tuedd i ddawn yr ymchwilydd
lesteirio dawn yr awdur creadigol mewn mannau.
Ond mae’n braf gweld nad yw’r awdur yn ceisio ysgrifennu am bynciau
a llefydd na wyr ddim amdanynt.
Diffyg bychan yw hwn mewn nofel mor uchelgeisiol â chrefftus a hon
gyda nifer o haenau yn ymblethu’n gelfydd drwyddi.
Yn gyntaf, ceir hanes Alun Edward Lloyd, cymeriad (wedi ei greu) o
Fôn sydd yn symud i Dde’r Affrig tuag adeg y Rhyfel Byd Cyntaf er
mwyn gwneud ei ffortiwn yn y mwyngloddiau aur.
Yn cydredeg â’r stori hon, ceir hanes person arall sydd â’i wreiddiau
yn Ynys Môn ond sydd bellach yn gweithio yn Awstralia, Mike Dawson.
Cynnal safon uchel
Mae’r modd y saernïwyd y nofel hon yn wych - y cynnwys mor ddiddorol
â’r mynegiant yn raenus - ac mae’n glod i’r awdur iddo lwyddo i gynnal
y safon uchel gydol y nofel.
Nid yw’n anodd dilyn rhediad y stori ac mae’r dechneg o gyfosod dwy
olgyfa hollol wahanol megis erchylltra’r ffosydd a moethusrwydd y
bywyd bras yn Awstralia yn gwrthgyferbynnu’n wych.
Nid yn unig y ceir dwy stori yn cydredeg â’i gilydd yn Yr ias yng
Ngruddiau’r Rhosyn ond eir hefyd arddull gyffredinol aml-haenog
sy’n effeithiol iawn.
Mae’r nofel yn frith o lythyrau gan berthnasau’r prif gymeriadau a
chan y prif gymeriadau eu hunain ynghyd ag ambell un oddi wrth y fyddin
a sefydliadau tebyg.
Hyd yn oed o gip-ddarllen y nofel, mae’r ansawdd o ran yr ochr weledol
yn ganmoladwy.
Mae'r nofel yn cychwyn gydag englyn o eiddo Ieuan Wyn ac yn cynnwys
toriadau o’r Daily Post ymhlith pethau eraill, gan gyfrannu’n
helaeth at y nofel fel cyfanwaith.
Dwy olygfa erotig
Yn annisgwyl, o bosib, ceir dwy olygfa lled-erotig ym mhenodau cyntaf
y nofel.
Mae’r awdur ar ei orau yma yn disgrifio’r sefyllfaoedd hyn mewn dull
hynod o deimladwy a chryno heb adael i’r deunydd fynd yn ddichwaeth
nac yn ffiaidd.
"Clywodd ei hanadl yn cyflymu. Yn gyflym, rhag cyrraedd penllanw
cyn pryd, diosgodd Mike ei ddillad i gyd."
Heb ddatgelu gormod am y plot, sydd yn llawn gwreiddioldeb, gellir
dweud mai cyfreithiwr yw Mike Dawson yn Awstralia ac mai’r prif ddigwyddiad
o bosib yw canfod ei ddarganfyddiad o hen gist yn Seland Newydd.
Mae’r gist hon a’i chynnwys (na fyddai'n deg imi ei ddatgelu yma)
yn dyddio’n ôl i gyfnod Alun Edward Lloyd a’r Rhyfel Byd Cyntaf a
hi yw’r prif gysylltiad rhwng y ddau brif gymeriad.
Ffuglen sy'n teimlo fel y gwir
Er mai ffuglen yw’r stori hon, ymddengys yn real iawn oherwydd i’r
awdur ddefnyddio’r ffynonellau ffeithiol o’r papurau newydd ac ati
mewn modd mor effeithiol.
Gyda hyn, gallwn ninnau uniaethu’n fwy â’r cymeriadau yn y nofel,
hyd yn oed gydag Alun Edward Lloyd, sydd braidd yn rhagrithiol.
Daeth y nofel hon yn ail gyda chlod uchel iddi yng nghystadleuaeth
Gwobr Goffa Daniel Owen yn Llanelli eleni ac rwy’n falch i Gwyn Llewelyn
gael y cyfle i’w chyhoeddi gan wireddu argymelliad beirniaid y gystadleuaeth.
Mae’r ffaith i gystal nofel â hon ddod yn ail mewn cystadleuaeth lenyddol
yn brawf o bwysigrwydd a safon gynyddol uchel Cystadleuaeth Gwobr
Goffa Daniel Owen.
|
|
|