Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliadau a ysgogir gan yr hunan i achosion posibl o dorri safonau golygyddol

Cyflwyniad

  • Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gweithdrefnau y bydd y ±«Óãtv yn eu mabwysiadu ar gyfer ymchwiliadau a ysgogir gan yr hunan i achosion posibl o dorri safonau golygyddol.Ìý Ìý
  • Mae’r weithdrefn hon yn cael ei rhoi ar waith yn ôl disgresiwn y ±«Óãtv, ac nid oes angen iddi fod yn berthnasol i gŵyn sydd eisoes yn bodoli.
  • Ei phwrpas yw sicrhau bod proses ffurfiol ar gael ar gyfer yr achlysuron hynny lle mae sail gref dros gredu bod canllaw neu bolisi’r ±«Óãtv wedi’i dorri a bod uwch reolwyr yn credu bod difrifoldeb posibl y drosedd yn cyfiawnhau ymchwiliad ar unwaith y tu allan i broses gwyno ffurfiol y ±«Óãtv.
  • Gall y toriadau posibl hyn ymwneud nid yn unig â materion sy’n codi ar ôl darlledu neu gyhoeddi’r deunydd dan sylw, ond hefyd â materion sy’n digwydd ar unrhyw gam o’i baratoi
  • Ni fwriedir i’r weithdrefn hon osgoi proses gwyno bresennol y ±«Óãtv ac ni fydd bodolaeth ymchwiliad mewnol yn rhwystr i achwynwyr os ydynt yn dymuno defnyddio gweithdrefnau presennol i fynegi pryder am unrhyw agwedd ar y ±«Óãtv a’i allbwn.Ìý Os digwydd hynny, bydd y rhai sy’n delio â chwynion fel arfer yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad a ysgogir gan yr hunan cyn rhoi ymateb o sylwedd.
    Ìý

ÌýSut bydd y ±«Óãtv yn delio ag ymchwiliad mewnol

  • Fel arfer, disgwylir i Is-adrannau Cyfrifol a llunwyr cynnwys gydnabod bod y cynnwys maent wedi’i gynhyrchu yn groes i’r Canllawiau Golygyddol.
  • Mewn achosion mwy difrifol (gan ystyried risg i enw da yn ogystal â difrifoldeb y tor-amod posibl), bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol neu’r uwch reolwyr yn cychwyn ymchwiliad i gael ei arwain gan ffigwr golygyddol uwch neu ffigurau y tu allan i’r is-adran dan sylw a/neu gan yr Uned Cwynion Gweithredol.Ìý Gwneir hyn fesul achos a bydd cyfansoddiad y tîm ymchwilio’n dibynnu ar natur yr honiadau, y cynnwys y mae’n ymwneud ag ef a’r arbenigedd sydd ei angen.
  • Yn yr achosion mwyaf difrifol, bydd y ±«Óãtv hefyd yn ystyried dod â ffigur nad yw’n rhan o’r ±«Óãtv i mewn i ymuno ag ymchwiliadau o’r fath neu i’w harwain.
  • Bydd ymchwilwyr yn rhoi darlun o’r gŵyn (os oes un) i’r gwneuthurwyr cynnwys perthnasol neu fanylion y tor-amod honedig a chyfle priodol i ymateb (a all fod ar lafar) i’r materion sy’n peri pryder, yn amodol ar y gofyniad i ddod i benderfyniad amserol.
  • Bydd ymchwilwyr yn gwneud argymhelliad i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol fel Prif Olygydd oni bai fod penderfyniad eisoes wedi’i wneud i ddirprwyo’r awdurdod i’r ymchwilwyr neu ffigur golygyddol uwch arall yn y ±«Óãtv.
  • Bydd canfyddiadau achosion o dorri’r rheolau golygyddol sy’n deillio o ymchwiliadau a ysgogir gan yr hunan yn cael eu cyhoeddi.