Gweithdrefn ar gyfer cwynion golygyddol trac cyflym

Rhaid i benderfyniadau ynghylch pryd i gyflymu cwyn gael eu gwneud drwy ddefnyddio barn olygyddol ac ar sail achos wrth achos.  Mae’r rhestr ganlynol yn nodi’r math o ystyriaethau a fyddai, ar eu pen eu hunain neu ar y cyd, yn debygol o lywio penderfyniad mewn achosion unigol.   

  • Arwyddocâd y posibilrwydd o dorri’r safonau a nodwyd
  • Y niwed posibl i enw da
  • Proffil y rhaglen (neu eitem arall o allbwn) y cwynir amdani
  • Lefel y pryder cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r mater(ion) y cwynir amdanynt
  • Natur yr achwynwyr (parti cyntaf neu drydydd parti, corff corfforaethol, person mewn bywyd cyhoeddus)  
  • Bod sail prima facie gref dros amau bod safonau wedi’u torri’n ddifrifol
  • Lle bo angen canfod achos o dorri amodau a chywiro neu ymddiheuro’n gyflym er mwyn sicrhau bod y ±«Óãtv yn glynu wrth ei safonau golygyddol

Bydd y penderfyniad i ddefnyddio’r weithdrefn trac cyflym yn cael ei wneud gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn ei rôl fel prif olygydd neu gan rywun a enwebir gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn y swyddogaeth honno, a bydd yn derfynol.  Bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol neu’r person enwebedig yn penderfynu ar gwmpas unrhyw ymchwiliad brys.  Bydd yr Uned Cwynion Gweithredol (UCG) yn ymgymryd â’r brif rôl ymchwilio ar y rhan fwyaf o achlysuron, ond mewn rhai achosion gellir ceisio cymorth allanol er mwyn datrys y mater yn gyflym. 

Bydd gwneuthurwyr cynnwys y mae eu gwaith yn amodol ar y weithdrefn trac cyflym yn cael gweld y gŵyn ac yn cael cyfle priodol (a all fod yn llafar) i ymateb i’r materion sy’n peri pryder, yn amodol ar y gofyniad i ddod i benderfyniad amserol.