±«Óãtv

Adolygiad Blynyddol Cymru: Y ffigurau uchaf mewn deng mlynedd o ran cynulleidfa teledu yng nghymru ond ceir pryderon o hyd am y portread o fywyd yng nghymru

Date: 21.07.2014     Last updated: 23.09.2014 at 09.53

Gwelwyd y ffigurau uchaf mewn degawd o ran cynulleidfa ar ±«Óãtv One Wales a ±«Óãtv Two Wales yn 2013/14, yn ôl Adroddiad Blynyddol y ±«Óãtv ac adolygiad blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru o'r ±«Óãtv a gyhoeddwyd heddiw. Ìý Ìý Ìý

Gwelwyd hefyd y niferoedd uchaf erioed yn gwylio ±«Óãtv Wales Today, y bwletin newyddion fin nos, gyda 305,000 o bobl yn ei wylio ar gyfartaledd.

Croesawodd Cyngor Cynulleidfa Cymru, corff cynghori Ymddiriedolaeth y ±«Óãtv, lwyddiannau'r ±«Óãtv yng Nghymru a'r uchafbwyntiau eleni o ran rhaglenni.Ìý Ymhlith y rhain roedd Y Gwyll/Hinterland, a ddarlledwyd mewn tri fersiwn mewn partneriaeth â'r S4C – Cymraeg, dwyieithog a Saesneg – am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac yna ledled y DU.

Cyrhaeddodd tymor rhaglenni Live Longer Wales ar y teledu, radio ac ar-lein bron 40 y cant o oedolion yng Nghymru. Ìý

Parhaodd ±«Óãtv Wales i gyfrannu'n gadarn at raglenni i gynulleidfaoedd ledled y DU, gyda bron 12 miliwn o bobl, ar gyfartaledd, yn gwylio'r gyfres ddiweddaraf o Sherlock. Mae hyn yn golygu mai hon yw'r gyfres ddrama a gafodd y nifer fwyaf o wylwyr ar y ±«Óãtv mewn dros ddegawd yn ogystal â'r ffaith mai hon yw'r ddrama fwyaf poblogaidd erioed ar ±«Óãtv iPlayer.Ìý

Cafodd y bennod arbennig o Doctor Who a oedd yn dathlu hanner canmlwyddiant y gyfres, a gynhyrchwyd hefyd yng Nghaerdydd, ei darlledu ar yr un pryd i 98 o wledydd ledled y byd. ÌýÌý

Parhaodd ±«Óãtv Radio Wales i berfformio'n gadarn gyda 468,000 o bobl, ar gyfartaledd, yn gwrando bob wythnos. ÌýCynyddodd ±«Óãtv Radio Cymru gyrhaeddiad ei gynulleidfa 13 y cant, lansiodd ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ymhlith ei wrandawyr ac yn dilyn hynny ail-lansiodd ei amserlen yn ystod yr wythnos.

Croesawodd y Cyngor Cynulleidfa lansiad ±«Óãtv One Wales HD ynghyd â'r gwelliannau diweddar i ddarpariaeth DAB o ±«Óãtv Radio Wales a Radio Cymru, a gynyddodd o 41 y cant i 61 y cant. Ìý

Mae'r Cyngor, a gynhaliodd 18 o ddigwyddiadau eleni i gasglu barn cynulleidfaoedd, wedi pwysleisio'r ffaith bod angen gwella darpariaeth DAB ac FM o Radio Wales a mynegodd bryder nad yw newyddion rhwydwaith ±«Óãtv ledled y DU yn adlewyrchu'r DU ar ôl datganoli o hyd. Er i'r Cyngor ddod i'r casgliad bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, dywedodd fod cymariaethau annigonol yn cael eu gwneud o hyd o ran swyddi cyfreithiol ac o ran polisi yng ngwledydd gwahanol y DU. Pwysleisiodd y Cyngor hefyd bryderon y gynulleidfa am y gostyngiad parhaus yn nifer y rhaglenni teledu Saesneg nad ydynt yn ymwneud â'r newyddion a gynhyrchir gan ±«Óãtv Wales i gynulleidfaoedd yng Nghymru, sydd wedi gostwng 21 y cant ers 2007/8.

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y ±«Óãtv:

"Gyda'r ffigurau uchaf mewn deng mlynedd o ran cynulleidfa, mae'n amlwg bod ±«Óãtv Cymru Wales yn darparu ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru ac mae'r rhaglenni eithriadol a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf yn brawf o hynny. ÌýÌýYn ogystal â hyn, mae'r dramâu a wnaed yng Nghymru ar gyfer y DU gyfan yn mynd o nerth i nerth ac mae Radio Cymru wedi denu mwy o wrandawyr.Ìý

"Fodd bynnag, mae'n peri pryder bod y Cyngor Cynulleidfa wedi nodi materion parhaus o ran y ffordd y mae rhwydwaith y ±«Óãtv yn adlewyrchu Cymru, a'r ffaith bod prinder rhaglenni teledu Saesneg, yn arbennig comedi a drama, yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru i Gymru.Ìý Bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i weithio gyda'r ±«Óãtv i fynd i'r afael â'r pryderon hyn yn ystod y flwyddyn i ddod".

Nodiadau i OlygyddionÌý

1. Mae Adolygiad Blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru ar gyfer 2013/14 ar gael yn

2. Mae Adolygiad Blynyddol a Chyfrifon y ±«Óãtv ar gyfer 2013/14 ar gael yn

3. Mae Adolygiad Blynyddol Rheolwyr y ±«Óãtv ar gael yn