±«Óãtv

Yr Iaith Gymraeg - Ein Hymrwymiad

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb tuag at y Gymraeg o ddifri ac mae'r safonau newydd yn gyfle i danlinellu ein hymrwymiad i'r iaith ac i gynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cynulleidfaoedd a staff yng Nghymru.

Mae’r ±«Óãtv yn ymrwymo i gwrdd â gofynion y safonau, ac mae dyletswydd arnom i wneud hynny wrth ddarparu:

  • Gwasanaethau Cynulleidfa
  • Gwasanaethau Corfforaethol
  • Trwyddedu Teledu

Rydym yn cydnabod hawl unigolion i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg ac ni fyddwn yn trin yr iaith yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth ddarparu’r gwasanaethau uchod.

Rydym yn croesawu cyswllt gan y cyhoedd a’n rhan-ddeiliaid yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gallwch...

  • Ffonio ni a derbyn gwasanaeth dwyieithog
  • Ysgrifennu llythyr neu e-bost atom yn Gymraeg neu yn Saesneg
  • Siarad Ã¢ ni wyneb yn wyneb yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Cwyno wrthym yn Gymraeg os yw pethau yn mynd o chwith

Byddwn yn...

  • Ysgrifennu a chyfathrebu gyda chi yn ddwyieithog
  • Cyhoeddi ein dogfennau cyhoeddus yng Nghymru yn ddwyieithog
  • Hwyluso cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau corfforaethol yn ddwyieithog
  • Darparu gwybodaeth ar-lein am y ±«Óãtv yng Nghymru yn ddwyieithog
  • Hyrwyddo cyfleodd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda ni

Nid yw ein gwasanaethau darlledu ar y radio, teledu ac ar-lein wedi eu cynnwys o fewn y safonau.

Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau darlledu o safon uchel i chi yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: