±«Óãtv

Hanes y ±«Óãtv yng Nghymru

Dr Jamie Medhurst
Dr Jamie Medhurst Prifysgol Aberystwyth

Ar 13 Chwefror 1923 am 5pm, dechreuodd y ±«Óãtv ddarlledu yng Nghymru pan agorodd y British Broadcasting Company (fel oedd bryd hynny) ei orsaf yng Nghaerdydd. Yn fuan wedi hynny, ym mis Rhagfyr 1924, agorodd y cwmni orsaf yn Abertawe. Yn 1927, newidiodd yr enw i British Broadcasting Corporation ac o fewn tair blynedd, roedd y gorsafoedd yng Nghymru yn rhan o’r ‘Rhanbarth Gorllewinol’.

Yn yr 1930au, roedd nifer o bobl yng Nghymru eisiau gweld Rhanbarth Gymreig ar wahân, i ddarparu rhaglenni yn Saesneg a Chymraeg i gynulleidfa Cymru. Yn dilyn ymgyrch hirfaith, cafodd y trosglwyddydd ym Mhenmon ei agor yn Chwefror 1937, sef dechrau swyddogol y Rhanbarth Gymreig. Ym mis Gorffennaf, daeth cyfarwyddwr cyffredinol y ±«Óãtv, Syr John Reith, ar ymweliad i Gaerdydd ar gyfer seremoni agoriadol y Rhanbarth.

Mostyn Thomas yn canu Dafydd y Garreg Wen, sef darllediad cyntaf y ±«Óãtv o Gymru, yn 1923
Mostyn Thomas yn canu Dafydd y Garreg Wen, sef darllediad cyntaf y ±«Óãtv o Gymru, yn 1923

Yn ystod y rhyfel, cafodd gwasanaethau rhanbarthol y ±«Óãtv eu cau. Ond rhwng mis Hydref 1940 a mis Awst 1943, roedd yr adran adloniant wedi ei leoli yn y stiwdios ym Mangor. O ganlyniad, doedd hi ddim yn anarferol i weld sêr fel Tommy Handley ac Arthur Askey yn crwydro strydoedd y ddinas!

Yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel, wrth iddi ddod yn glir mai’r teledu fyddai’r prif gyfrwng ar gyfer rhannu gwybodaeth, addysg ac adloniant, daeth mwy o alw ar i Gymru gael ei gwasanaeth teledu ei hun. Cafodd pwyllgor ei greu gan y llywodraeth i drafod dyfodol darlledu yn y DU yn 1960, a dyma oedd y trobwynt o ran darlledu yng Nghymru.

Roedd nifer o bobl yn poeni am effaith y teledu ar yr iaith, diwylliant a ffordd o fyw Cymraeg. Dyma oedd beth oedd gan Urdd Gobaith Cymru i’w ddweud am y mater: ‘Mae hi’n amlwg mai’r unig ateb yw i drin Cymru fel uned, i’w hysgaru oddi wrth ranbarthau eraill ac i roi iddi’r parch mae cenedl yn ei haeddu. Mae hyn yn golygu gwasanaeth deledu sydd yn ymdrin â’r wlad i gyd yn ddigonol, yn darparu rhaglenni o bob math yn Gymraeg a Saesneg, yn ystod amseroedd gwylio cyfleus’.

Nid oedd pawb o’r un farn, fodd bynnag! Ym mis Ionawr 1962, ysgrifennodd Mr J. E. Roberts o Benygroes gen Caernarfon at y Western Mail i ategu’r pwynt fod yna gysylltiad gref rhwng gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr. ‘Advocates of an all-Welsh TV are a real menace’ meddai. Aeth ymlaen i ddweud: ‘It is things such as this that make us in north Wales hope and pray that we shall never come under any system of all-Wales TV. It would be ruinous. For the north of England regional news interests us exceedingly, but the south Wales news not at all.’

Pan gafodd adroddiad y pwyllgor ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 1962, un o’r datganiadau pwysicaf o safbwynt datblygiad teledu Cymreig oedd ‘the first priority should be given to separating the ±«Óãtv’s service to Wales from that to the English regions…’ Roedd y llwybr, felly, wedi ei gosod i sefydlu ±«Óãtv Cymru Wales yn 1964.

1960au

Cafodd ±«Óãtv Cymru Wales ei lansio ar 9 Chwefror 1964. Cyn hynny, roedd ymgyrch hyrwyddo fawr, a oedd yn annog gwylwyr i wylio’r gwasanaethu teledu newydd ac yn cyhoeddi ar gân fod ‘Cymru yn cael ei gwasanaeth teledu ei hun yn 1964!’. Roedd hefyd ffilm fer wych yn egluro beth i’w wneud i’r set deledu er mwyn derbyn y gwasanaeth newydd.

Ffilm wybodaeth ±«Óãtv Cymru yn cyhoeddi’r gwasanaeth teledu newydd yn 1964

Roedd yn darparu 12 awr o raglenni yr wythnos (pump awr o rai Saesneg a saith o rai Cymraeg), ac yn dewis peidio â darlledu rhaglenni rhwydwaith y DU yn ystod oriau gwylio cyffredin, yn hytrach na gorfod darlledu rhaglenni pan fo rhwydwaith y DU wedi ei diffodd, fel oedd wedi digwydd yn y gorffennol. Roedd hyn yn golygu nad oedd rhaid i wylwyr Cymraeg eu hiaith bellach wylio rhaglenni dros amser cinio ar ddydd Sul neu yn hwyr yn y noson.

Daeth y gwasanaeth yn fuan yn rhan hanfodol o fywydau gwylwyr teledu Cymru. Roedd hyn yn wir am nifer o resymau, yn arbennig oherwydd y rhaglenni newyddion dyddiol, Wales Today a Heddiw. Roedd rhaglenni materion cyhoeddus fel Week In Week Out a Cywain hefyd yn fan i gael trafod materion Cymreig. Roedd hyn yn bwysig iawn, yn enwedig oherwydd y newidiadau gwleidyddol ar y pryd. Ym mis Hydref 1964, cafodd yr AS dros Lanelli, Jim Griffiths, ei benodi fel yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyntaf gan y Llywodraeth Llafur. Gwnaeth hyn, ynghyd â sefydlu’r Swyddfa Gymreig, olygu fod trafodaeth ynglÅ·n â gwleidyddiaeth Cymru yn dod yn fwy amlwg o fewn a thu hwnt i’r wlad, ac roedd rhaglenni newyddion a materion cyhoeddus ±«Óãtv Cymru yn barod i ddarparu fforwm ar gyfer y drafodaeth a’r ddadl honno.

Derbyniodd y gwasanaeth newyddion ei her fwyaf gyntaf ym mis Hydref 1966 yn ystod trychineb Aberfan. Roedd gohebwyr fel Brian Hoey yn y fan a’r lle yn cyfweld â llygad-dystion ac yn gohebu ar y digwyddiad ofnadwy. Yn ôl un gohebydd oedd yna, ‘Dyma’r dydd y daeth newyddion i oed yng Nghymru’.

Yn hydref 1966, symudodd ±«Óãtv Cymru i’w bencadlys newydd yn Llandaf ac fe gafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 1967 gan y Dywysoges Margaret. Tan y pwynt yma, roedd adeiladau gwahanol yn ac o amgylch Caerdydd wedi cael eu defnyddio i gynhyrchu rhaglenni Cymru, ond nawr, roedd y rhan fwyaf o weithgareddau Cymreig y gorfforaeth yn cael eu cynnal o dan un to y Ganolfan Ddarlledu newydd.

Daeth y ddegawd i ben gydag un o’r darllediadau allanol mwyaf gan ±«Óãtv Cymru, sef arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Cafodd y rhaglen, gyda sylwebaeth gan Richard Barker ac Emlyn Williams, gynulleidfa o dros 500 miliwn o bobl ar draws y byd.

Castell Caernarfon
Castell Caernarfon yn barod i’r Tywysog Siarl gael ei arwisgo yn Dywysog Cymru yn 1969, a ddenodd gynulleidfa o tua 500 miliwn o bobl ar draws y byd.

1970au

Mae rhai pobl yn ystyried yr 1970au fel cyfnod ‘tawel’ yn hanes teledu – cyfnod ble na ddigwyddodd rhyw lawer. Yng Nghymru, fodd bynnag, roedd y byd darlledu yn llawer fwy prysur. Yn yr 1970au, roedd mwy o weithgareddau gan grwpiau cenedlaetholgar diwylliannol a gwleidyddol, fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru. Roedd mwy o alw am wasanaeth teledu gyfan gwbl Gymraeg, ac o ganlyniad, daeth argymhellion i sefydlu pedwaredd sianel yng Nghymru, â hynny o flaen gweddill y DU.

Darlledwyd y rhaglen lliw cyntaf gan ±«Óãtv Cymru yn 1970, sef adroddiad o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf. I nifer, yr 1970au oedd ‘oes euraidd’ teledu, a does dim amheuaeth fod ±«Óãtv Cymru wedi chwarae rhan yn hyn. O ran comedi teledu, roedd Ryan Davies a Ronnie Williams yn diddanu cynulleidfaoedd yng Nghymru ac ar rwydwaith ±«Óãtv One. Roedden nhw’n cael eu galw’n ‘Morcambe and Wise’ Cymru o ganlyniad i’w talentau comedi unigryw, athrylithgar.

Ryan a Ronnie
Ryan a Ronnie

Blodeuodd dramâu teledu gan ±«Óãtv Cymru hefyd yn ystod y saithdegau. Yn Hydref 1974, cafodd yr opera sebon, Pobol y Cwm ei lansio – sef yr opera sebon gan y ±«Óãtv sydd wedi bod ar y teledu hiraf (a’r ail un hiraf yn y DU). Gweledigaeth pennaeth drama ±«Óãtv Cymru, John Hefin, oedd y rhaglen, a bu’n llwyddiant yn syth. Deugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’n parhau i fod yn boblogaidd. Hefin, gyda’r dramodydd Gwenlyn Parry, oedd awdur a chyfarwyddwr un o’r ffilmiau mwyaf eiconig gan ±«Óãtv Cymru yn ystod y ddegawd honno, sef Grand Slam. Roedd yn stori ddoniol, eithaf coch ar adegau, am daith rygbi i Baris, gyda Dewi ‘Pws’ Morris, Hugh Griffiths a Windsor Davies yn serennu. Cafodd ei darlledu ar rwydwaith y DU, ac i nifer, mae’n crisialu diwylliant rygbi Cymru y cyfnod.

Bu datblygiad pwysig i wasanaeth radio ±«Óãtv Cymru yn ystod y saithdegau hefyd. Am nifer o flynyddoedd, roedd y rhanbarth wedi bod yn darparu cynnwys i radio rhwydwaith y ±«Óãtv, yn enwedig yr ‘±«Óãtv Sevice’, ynghyd â Radio 4 o 1967 hyd nes i wasanaeth radio’r ±«Óãtv gael ei ad-drefnu. Yn 1977, roedd modd dewis peidio â darlledu rhaglenni rhwydwaith ar Radio 4, a’r flwyddyn ganlynol, cafodd dwy orsaf radio genedlaethol eu lansio, sef Radio Wales a Radio Cymru. Gwnaeth y ddwy orsaf eu marc, a bellach maen nhw’n rhan ganolog o’r tirlun darlledu yng Nghymru.

1980au

Yn ystod blynyddoedd cyntaf yr wythdegau, y prif ddigwyddiad yng Nghymru oedd sefydlu Sianel Pedwar Cymru (S4C). Roedd y ±«Óãtv wedi bod yn rhan o’r drafodaeth i sefydlu’r sianel o’r dechrau, ac o dan Ddeddf Darlledu 1980, roedd yn rhaid iddo gynhyrchu tua 10-11 awr o raglenni yr wythnos i’r sianel newydd. Roedd hyn yn gynnydd aruthrol i ±«Óãtv Cymru, o gofio mai 6-7 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg oedd wedi cael eu cynhyrchu tan hyn. Roedd y rhaglenni yn cyfrif am tua hanner cynnwys y sianel, gyda’r rhaglenni eraill yn cael eu cynhyrchu gan ddarlledwr ITV dros Gymru, sef HTV, a’r sector gynhyrchu annibynnol gymharol ifanc. Newyddion oedd y rhan fwyaf o gynnwys rhaglenni’r ±«Óãtv (sef y rhaglen nosweithiol Newyddion 7) a’r opera sebon, Pobol y Cwm. Cymerodd gynhyrchwyr y rhaglen boblogaidd gam dewr ym mis Medi 1988 drwy gychwyn darlledu’n ddyddiol - yr opera sebon gyntaf yn y DU i wneud hynny. Yn 1994, cafodd ei dangos ar deledu rhwydwaith gydag isdeitlau Saesneg am gyfnod byr, arbrofol.

Wrth gwrs, roedd y newid ym mhatrwm teledu yng Nghymru yn golygu mai dim ond rhaglenni Saesneg oedd yn cael eu darlledu ar wasanaeth teledu ±«Óãtv Cymru Wales bellach. Roedd hyn yn ryddhad i nifer o bobl di-Gymraeg a oedd, ers blynyddoedd, wedi cwyno fod rhaid iddyn nhw wylio rhaglenni mewn iaith nad oedden nhw’n ei deall!

Philip Madoc dressed as David Lloyd George with trilby hat and moustache.
Philip Madoc yn The Life and Times of David Lloyd George

Un o’r llwyddiannau mwyaf yn y Saesneg yn yr wythdegau oedd The Life and Times of David Lloyd George a gafodd ei gynhyrchu gan ±«Óãtv Cymru. Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan Elaine Morgan a’i chyfarwyddo gan John Hefin. Roedd yn cael ei darlledu ar draws y DU ar rwydwaith ±«Óãtv One a derbyniodd ganmoliaeth uchel. Wedi hynny, daeth mwy o gyfresi ar y rhwydwaith, fel addasiad o nofel Alun Richards Ennal’s Point gyda Philip Madoc yn 1982 a The District Nurse, gyda Nerys Hughes yn 1984.

Roedd Streic y Glowyr yn 1984-5 yn peri her i ±«Óãtv Cymru – fel i weddill y gorfforaeth – wrth iddo ceisio llywio drwy ddadleuon cymhleth a theimladwy. Drwy wneud hynny, amlygodd bwysigrwydd rôl darlledwr cenedlaethol i ddarparu platfform yn ystod cyfnod anodd a chythryblus iawn, yn arbennig i dde Cymru.

Daeth y ddegawd i ben gyda newid arall i ddarlledu, a gyda theledu digidol ar y gorwel, roedd pethau ar fin dod yn gystadleuol iawn.

1990au

Gallwch grynhoi’r 1990au fel degawd o newidiadau mawr yn y diwydiant darlledu yn y DU. O ganlyniad i gystadleuaeth oddi wrth sector deledu fasnachol a oedd wedi ei dadreoli, a thyfiant yng nghwmni teledu lloeren, Sky, roedd rhaid i’r ±«Óãtv addasu i’r amgylchedd newidiol. Wrth i nifer y sianeli gynyddu ac i oed y teledu aml-sianel wir ddod i rym, yr her i ±«Óãtv Cymru oedd i gadw’i safle fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, gyda’r nod glir o adlewyrchu Cymru mewn amserlen deledu a oedd yn brysur lenwi.

Tra bod teledu yn dod yn fwy byd-eang yn ystod y ddegawd, beth oedd o ddiddordeb yn yr 1990au hwyr oedd y shifft tuag at ddatganoli gwleidyddiaeth. Roedd mwy a mwy o rwystredigaeth fod lleisiau o genhedloedd y DU ddim o reidrwydd yn cael eu clywed ar rwydwaith y DU. Mae Menna Richards, cyn Reolydd ±«Óãtv Cymru, wedi trafod y blaenoriaethau croes a oedd yn cael eu trafod – creu cynnyrch ar gyfer y gynulleidfa neu geisio cael effaith ar rwydwaith y DU. Ei hawgrym yw, mewn gwirionedd, nad oes blaenoriaethau croes; mae’n rhaid i’r darlledwr fynd i’r afael â’r ddwy elfen. Er fod ±«Óãtv Cymru wedi ceisio gwneud hyn, roedd cynyrchiadau Cymreig ar rwydwaith y ±«Óãtv yn brin yn ystod y nawdegau. Yng Nghymru, lansiodd y ±«Óãtv nifer o gyfresi drama yn Saesneg. Roedd dau ohonyn nhw, Satellite City a Belonging yn boblogaidd iawn ymysg cynulleidfa Cymru. Yn dilyn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, roedd rhaid i ±«Óãtv Cymru adlewyrchu newid ar dirlun gwleidyddol y genedl. O ganlyniad i ddatganoli, daeth cynnydd mewn rhaglenni gan genhedloedd y DU a buddsoddodd y ±«Óãtv llawer mewn rhaglenni o Gymru a sicrhau lle yn amserlen rhwydwaith y ±«Óãtv ar gyfer rhaglenni drama, cerddoriaeth a ffeithiol Cymreig.

Einir Sion a Shelley Miranda Barrett yn Satellite City
Einir Sion a Shelley Miranda Barrett yn Satellite City

Daeth ±«Óãtv Cymru yn fwy amlwg ar y we drwy lansio ei dudalennau gwe ei hun yn 1997 a chreu cyfle am fwy o ddatblygiadau digidol yn y mileniwm newydd. Roedd datganiad ar wefan ±«Óãtv Cymru yn 1998 yn nodi: ‘±«Óãtv Cymru Wales yw’r unig ddarlledwr sydd yn cynhyrchu gwasanaethau yn Saesneg a Chymraeg ar gyfer radio, teledu ac ar-lein, sydd yn adlewyrchu bywyd a thalentau amrywiol Cymru mewn rhaglenni sydd wedi eu dylunio yn arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.’

2000 ymlaen

Yn ystod y ddegawd hon, ymunodd ±«Óãtv Cymru â’r byd digidol newydd mewn modd fawr iawn. Wedi iddo fod yn rhan o lansiad ±«Óãtv Choice yn 1998, gydag amrywiad rhanbarthol ar gyfer Cymru, lansiodd ±«Óãtv Cymru ei sianel ddigidol ei hun yn 2001, sef ±«Óãtv2W. Roedd yn dewis peidio â dangos rhaglenni rhwydwaith ±«Óãtv TWO yn ystod y nosweithiau, ac yn lle yn darparu rhaglenni yn Saesneg am Gymru ar nifer o destunau. Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i ddod yn ddigidol yn 2010, ac roedd ±«Óãtv Cymru ar flaen y gad. Profodd cyfresi mawr, fel Coal House yn 2007, pa mor boblogaidd y gallai rhaglenni aml-gyfrwng fod, gan ei gwneud hi’n bosib i’r gynulleidfa gysylltu â’r gyfres ar ôl iddo gael ei darlledu. 

Efallai mai gyda’r mathau yma o raglenni mae ±«Óãtv Cymru wedi cael y llwyddiant mwyaf. Cafodd Doctor Who ei ail-lansio gan ±«Óãtv Cymru Wales yn 2005, er nad oedd wedi bod ar deledu Prydeinig ers 1989. Dychwelodd y gyfres o dan ofal y cynhyrchwyr gweithredol Russel T Davies, a Phennaeth Drama ±«Óãtv Cymru, Julie Gardner, a bu’n llwyddiant yn syth. Mae cyfresi rhwydwaith mawr fel Torchwood, Merlin, Atlantis a Casualty oll yn cael eu cynhyrchu yng Nghaerdydd ac â stamp ±«Óãtv Cymru Wales ar ddiwedd y rhaglen. Mae’r datblygiadau diweddar yn ac o amgylch Porth y Rhath yn dyst o ymrwymiad ±«Óãtv Cymru i gynhyrchu dramâu – nid yn unig i’r rhwydwaith ond hefyd i gynulleidfa cenedlaethol Cymru.

Christopher Eccleston oedd Doctor Who
Christopher Eccleston oedd Doctor Who yn 2005

Un llwyddiant ysgubol arall yw’r rhaglen noir Nordig Hinterland/Y Gwyll a gafodd ei darlledu ar S4C yn 2013 ac ar ±«Óãtv1 Wales a ±«Óãtv4 yn 2014. Roedd yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng ±«Óãtv Cymru, Fiction Factory, S4C ac eraill ac wedi ei lleoli yn Aberystwyth a’r ardal. Mae’n amlygu’r potensial dyfeisgar a chyffrous o adlewyrchu Cymru ar y sgrin ble mai’r olygfa, yn ei hanfod, yw’r stori.

Am hanner canrif, mae ±«Óãtv Cymru wedi dangos a thrafod bywyd yng Nghymru. Mae wedi darparu gofod gyhoeddus i bob cornel y genedl. Mae wedi gwneud hynny drwy ystod o raglenni, o newyddion a materion cyfoes, i grefydd a drama. Fel gafodd ei ddweud rywbryd; mae wedi dal drych ar gymdeithas yng Nghymru, ar y radio, teledu a nawr ar nifer o blatfformau digidol. Mae John Davies, arbenigwr ar hanes Cymru, wedi dadlau fod Cymru yn arteffact, wedi ei greu gan ddarlledu. Does dim amheuaeth fod ±«Óãtv Cymru Wales wedi chwarae rôl bwysig wrth greu’r arteffact hwnnw ac y bydd yn parhau i wneud hynny am beth amser eto.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: