Ar y teledu a'r radio
Mae ein rhaglenni teledu lleol ar gael ar ±«Óãtv ONE Wales & ±«Óãtv Wales HD, ±«Óãtv TWO Wales, ±«Óãtv iPlayer ac S4C. Rydym hefyd yn cynnig dwy orsaf radio genedlaethol, ±«Óãtv Radio Cymru yn Gymraeg a ±«Óãtv Radio Wales yn Saesneg.
Mae ein portffolio o raglenni radio i'r rhwydwaith yn cynnwys ffefrynnau megis The Choir a Composer of the Week i Radio 3, ac amryw gynhyrchiad drama i Radio 4.
Ar gyfer teledu, gyda chwmnïau annibynnol yng Nghymru rydym yn cynhyrchu rhaglenni i sianeli digidol y ±«Óãtv sef ±«Óãtv Three, Four a C±«Óãtv, ac mae ein cynyrchiadau teledu rhwydwaith, gan gynnwys Doctor Who a Casualty, yn denu miliynau o wylwyr drwy'r byd i gyd.
S4C
Mae gennym berthynas unigryw gyda S4C ac rydym yn cyfrannu tua 540 awr o raglenni ±«Óãtv Cymru Wales at amserlen gyfan S4C bob blwyddyn, wedi ei hariannu gan y drwydded deledu. Adnewyddodd y ±«Óãtv ac S4C a thrwy hyn y mae rhaglenni'r ±«Óãtv i S4C yn cael eu cytuno.
Mae Ymddiriedolaeth y ±«Óãtv hefyd yn sefydlu cylch gwaith ar gyfer cynnyrch teledu iaith Gymraeg y ±«Óãtv. Mae'r ddwy broses yma yn sicrhau bod rhaglenni'r ±«Óãtv ar S4C yn cyfrannu'n uniongyrchol i strategaeth rhaglenni S4C gan ddarparu'r dibenion cyhoeddus sydd eu hangen gan y ±«Óãtv yn ei Siarter a'i Gytundeb.
Ar-lein
Mae gwasanaethau ar-lein ±«Óãtv Cymru yn cyrraedd dros dair miliwn o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos, gyda chynnwys yn cael ei weld ar gyfrifiaduron, setiau teledu â chyswllt â’r we, ffonau symudol a dyfeisiau tabled.
Ar gyfer fersiiynau Cymru a Wales o ±«Óãtv Online, mae’r gwasanaeth yn darparu cynnwys Newyddion a Chwaraeon, iPlayer, yr Hafan, Bitesize, Tywydd, Teithio, Radio a Cherddoriaeth, C±«Óãtv a CBeebies.
Mae cyfryngau cymdeithasol ar lwyfannau megis a yn dod yn fwyfwy pwysig, gyda chynnydd enfawr yn y defnydd ohonyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Cymru Fyw hefyd yn darparu golwg unigryw ar Gymru yn Gymraeg.
Ynghyd â chynnwys lleol, mae ±«Óãtv Cymru hefyd yn cynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith, o Doctor Who a Sherlock i Crimewatch a Wizards vs Aliens.
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y ±«Óãtv
Neuadd Hoddinott y ±«Óãtv ym Mae Caerdydd yw cartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y ±«Óãtv, ac maen nhw'n perfformio ledled Cymru ac ar hyd a lled gwledydd Prydain. Dyma Gerddorfa Breswyl Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac maen nhw'n teithio’n rheolaidd i Abertawe ac o amgylch canolbarth a gogledd Cymru. Yn ogystal, mae’r Gerddorfa’n perfformio bob blwyddyn yn y ±«Óãtv Proms yn y Royal Albert Hall, Llundain.
Ewch i bbc.co.uk/now am fanylion pellach gan gynnwys amserlen o gyngherddau.